
DYFFRYN MEMORIALS
Rydym yn dim bach lleol sydd yn ymroddi i gynnig gwasanaeth bersonnol trylwyr a chyfeillgar am bris teg.
Mae gennym dros ddeugain mlynedd o brofiad o helpu a chynghori teuloedd mewn galar, a hynny mewn ffordd urddasol a gofalus, i drio gwneud y holl broses, o ddewis carreg bedd mor hawdd a sydd bosib.
Trwy gyfuno y grefft draddodiadol y saer maen a thechnoleg gyfoes, rydym yn darparu cofebau a fydd yn mynegi eich atgofion arbennig am eich anwyliaid.
Rydym yn gweithio a'r Gwenithfaen gorau, Llechen Gymreig, a Marmor ac unrhyw garreg naturiol.
Mae ein cwmni wedi ei gofrestru a'i awrdudodi a B.R.A.M.M. ( British Register of Accredited Memorial Masons.)
Cynnigwn y gwasanaethau canlynol:
Cyflenwi Cofebau newydd
Symyd y garreg pan fydd angen, ar ran y Cyfarwyddwr Angladdau, pan fyddo'r bedd angen ei ail agor i anwylyd arall, a'i gadw'n ddiogel yn ein gweithdy nes y bydd yn barod i'w ail osod gyda enw arall wedi ei roi arno.
Sythu neu ddiogelu y garreg gyda angor i safon BRAMM
Gwasanaeth llawn o adfer, trwsio, glanhau, aileuro, ail baentio, ychwanegu ysgrifen, ac unrhyw waith cysylltiedig a charreg bedd